Bedydd tân: sgwrs gyda TewTewTennau
Un o’r bandiau hynny sydd wedi creu cryn argraff yn ystod hanner cyntaf 2024 ydy TewTewTennau. Gruffudd ab Owain sydd wedi bod yn sgwrsio gyda nhw ar ran Y Selar.
Wrth baratoi i ryddhau eu halbwm newydd, mae’r ddeuawd roc o Lanrug, Alffa, wedi rhyddhau eu sengl newydd, ‘Dance Again’.
Mae’r DJ a’r cynhyrchydd, Vampire Disco, wedi rhyddhau ei sengl newydd, ‘Hapus’. Vampire Disco ydy prosiect diweddaraf y cerddor Alun Reynolds, sydd wedi arbrofi gydag amryw brosiectau cerddorol yn y gorffennol gan gynnwys Panda Fight a JJ Sneed – pwy all anghofio’r ‘air sax’ enwog eh?
Mae’r band o Gaerdydd, Angel Hotel, wedi rhyddhau eu halbwm cyntaf dan yr enw ‘I Can Find You if I Look Hard Enough’.
Mae ail albwm y band Cwtsh bellach ar gael ar ffurf CD. Rhyddhawyd ‘Llinell Amser’ yn wreiddiol ym mis Mawrth eleni, ond yn y lle cyntaf, dim ond ar y llwyfannau digidol oedd hwn ar gael.
Cwpl o wythnosau yn ôl roedd cyfle cyntaf ecsgliwsif i chi weld y fideo ar gyfer sengl gyntaf Maddy Elliott yma ar wefan Y Selar.
Mae Pys Melyn wedi rhyddhau casgliad newydd arbennig o ganeuon. Fel Efeilliaid ydy enw’r albwm diweddaraf gan y band seicadelig o Lŷn.
Mae un o artistiaid ifanc mwyaf cyffrous y sin ar hyn o bryd, Buddug, yn ôl gyda’i sengl ddiweddaraf sydd allan ar label Recordiau Côsh.
Bydd gŵyl newydd yn cael ei chynnal am y tro cyntaf yn Aberystwyth ar ddydd Sadwrn 14 Medi. Gŵyl y Castell ydy enw’r digwyddiad newydd a gynhelir, fel mae’r enw’n ei awgrymu, yng Nghastell Aberystwyth.
Bydd Lowri Evans yn rhyddhau EP o ganeuon Saesneg yn arbennig ar gyfer ei thaith hydref sydd ar fin dechrau.