Sefydliad Cerddoriaeth yn dathlu pen-blwydd

Pen-blwydd hapus iawn i’r Sefydliad Cerddoriaeth Gymreig oedd yn dathlu eu pen-blwydd yn 10 oed yr wythnos diwethaf!

Mae’r sefydliad wedi bod yn gweithredu’n brysur dros y blynyddoedd i geisio cryfhau isadeiledd y sin gerddoriaeth yng Nghymru a helpu i hyrwyddo’r sin.

Fel rhan o’r dathliad fe gynhaliwyd sesiynau arbennig gan y sefydliad yng Nghanolfan y Mileniwm, Caerdydd dros y penwythnos gyda phob math o weithdai a seminarau. Roedd yna hefyd ddau gig i ddathlu gyda Future of The Left yn headlinio nos Wener, Spencer McGarry Season yn brif atyniad nos Sadwrn.

Penblwydd hapus SGC

Mae’r SGC hefyd yn bwriadu cynnal ail ddathliad yn y Gogledd fis nesaf, a hynny yn y Galeri Caernarfon ar 7 a 8 Hydref. Bydd ‘na amrywiaeth o seminarau a chyflwyniadau ynghyd ag adloniant gyda’r hwyr. Ymysg y rheiny fydd yn perfformio ar y Castell a’r Morgan Lloyd dros y penwythnos bydd Sian James, Colorama a Gwilym Morus.

Cadwch olwg ar y wefan yma am y manylion llawn.