Llongyfarchiadau mawr iawn i Yr Angen ar gipio coron Brwydr y Bandiau C2 neithiwr.
Mae’r gystadleuaeth wedi bod yn rhedeg ar C2 ers rhai wythnosau bellach, gyda rowndiau rhanbarthol gyntaf, cyn i rownd derfynol neithiwr.
Tri band oedd yn y ffeinal, sef Yr Angen o Abertawe, The Unknown o Aberystwyth a Cyfoes o ardal Caerfyrddin. Y grŵp o Ysgol Gyfun Gwyr ddaeth i’r brig yn y bleidlais gyhoeddus – llongyfarchiadau mawr i Jac Davies, Jamie Price, David Williams a Gareth Jones.
Mae’r band yn ennill cyfleodd lu fel rhan o’r wobr, gan gynnwys:
– recordio Sesiwn i C2, Radio Cymru
– ymddangos ar raglen deledu Uned 5 ar S4C
– perfformio yn un o wyliau mawr yr haf
– perfformio ar lwyfan y Pentre Ieuenctid yn y Sioe Frenhinol
– chwarae mewn gigs Mentrau Iaith Cymru
– perfformio ar Daith Ysgolion C2 2010
…heb sôn wrth gwrs am y bri a’r anrhydedd o ddilyn yn ôl traed bandiau cyn enillwyr fel Nevarro a’r Offbeats.
Gallwch weld rhagor o wybodaeth am y gystadleuaeth, yn ogystal a phroffil y bandiau yma ar wefan y BBC.