Cyhoeddi Rhestrau Byr Gwobrau’r Selar
Mae’r cylchgrawn cerddoriaeth Gymraeg cyfoes, Y Selar, wedi cyhoeddi’r rhestrau byr ar gyfer eu gwobrau cerddoriaeth. Mae’r cylchgrawn wedi ehangu’r gwobrau eleni i gynnwys 10 o gategorïau, yn ogystal a gwneud y bleidlais yn agored i’r darllenwyr.
Ymysg y categorïau mwyaf cyffrous eleni mae’r wobr am yr artist unigol gorau, gyda’r enillydd i ddod o’r rhestr fer o El Parisa, Mr Phormula a Huw M. Pleidlais arall boblogaidd oedd yr un am y band newydd gorau, gyda Masters in France, Y Bandana ac Y Niwl yn brwydro am y teitl.
Golygydd Y Selar yw Owain Schiavone a ddywedodd, “da ni wedi mynd ati i ddatblygu’r gwobrau eleni, ac wedi creu llawer mwy o buzz ynglŷn a’r peth. Dwi’n meddwl ei bod yn wirioneddol bwysig i gael gwobrau fel hyn i ddathlu llwyddiant y sin dros y flwyddyn a fu. Mae ennill gwobr yn gallu rhoi hwb enfawr i fand ac mae’n dangos fod eu gwaith yn cael ei werthfawrogi.”
Yn ogystal a’r gwobrau arferol i fandiau ac artistiaid, mae’r Selar wedi cyflwyno rhai gwobrau i’r diwydiant hefyd eleni. Meddai Owain, “mae angen tynnu sylw at y gwaith da mae trefnwyr a hyrwyddwyr yn ei wneud i hybu’r sin, ac mae’n dda gweld pobl fel Dilwyn Llwyd, Guto Brychan a Dai Lloyd yn cyrraedd y rhestr fer yn y categori ‘Hyrwyddwr Gorau’. Wedi dweud hynny, mae’n siŵr taw gwobr ‘Band Gorau’ fydd yr uchafbwynt fel arfer, ac mae’r ffaith ein bod wedi gorfod cyhoeddi rhestr fer estynedig yn profi ei fod y categori’n fwy agored nag erioed.”
Bydd rhifyn nesaf y cylchgrawn hefyd yn cynnwys rhestr 10 uchaf albyms Cymraeg 2009, sydd wedi eu dewis gan gyfranwyr rheolaidd y cylchgrawn.
Bydd yr enillwyr yn cael eu datgelu yn rhifyn nesaf Selar sy’n cael ei gyhoeddi ar ddydd Llun 8 Mawrth. Mae’r cylchgrawn yn rhad ac am ddim i ddarllenwyr ac yn cael ei ddosbarthu’n helaeth i ysgolion, colegau, siopau amrywiol a thrwy rwydwaith Mentrau Iaith Cymru. Gellir hefyd lawr lwytho copi electronig ar wefan newydd y cylchgrawn sef www.y-selar.com
Mae’r rhestrau byr fel a ganlyn:
Sengl Orau – Cacen Mamgu / Cake – Race Horses
Fel Hyn am Byth – Yr Ods
Hufen Iâ – Clinigol
EP Gorau – 100 Diwrnod Heb Liw – Y Promatics
Cuddio’r Cysgodion – Byd Dydd Sul
Enlli – Yucatan
Clawr CD Gorau – Os Mewn Sŵn – Huw M
Medina – Eitha Tal Ffranco
Melys – Clinigol
Cân Orau – Colli Cyfle – Y Promatics
Ar Fy Llw – Llwybr Llaethog
Fel Hyn am Byth – Y Ods
Digwyddiad Byw Gorau – Gŵyl y Dyn Gwyrdd
Maes-B
Gŵyl Sŵn
Band Newydd Gorau – Masters in France
Y Bandana
Y Niwl
DJ Gorau – Nia Medi
Vinyl Vendettas
Steffan Cravos
Artist Unigol Gorau – El Parisa
Mr Phormula
Huw M
Hyrwyddwr Gorau – Dilwyn Llwyd
Dai Lloyd
Guto Brychan
Band Gorau – Sibrydion
Yr Ods
Race Horses
Clinigol
Derwyddon Dr Gonzo
Jen Jeniro