Y rhod yn troi yng Nghapel Curig

Gŵyl fach arall ddifyr sydd ar y gweill yw Clyb Solstis yng Nghapel Curig.

Mae’r ŵyl yn cael ei threfnu gan John Lawrence, gynt o’r Gorkys Zygotic Mynci, ac erbyn hyn yn gynhyrchydd llwyddiannus yn y Gogledd.

Mae ‘na lwyth o artistiaid gwych yn perfformio yn yr ŵyl yn cynnwys Gai Toms, Igam Ogam a’r Cowbois Celtaidd (lineup llawn isod).

Ond efallai mai’r atyniad mwyaf fydd y lleoliad awyr agored arbennig yng nghanol Eryri, reit ar lan Afon Llugwy ac wrth droed hoff fynydd trigolion Dyffryn Conwy, Moel Siabod. Mae’n addo bod yn ddigwyddiad a hanner – gwybodaeth lawnach fan hyn: www.clybsolstis.co.uk

Trevor Roots & the Collaborators

Gai Toms ar Band

Cowbois Celtaidd

T.G. Elias

Igam Ogam

Turnstone

DJ Fflyffilyfbybl (Byd Mawr)

3hy – tan hwyr

Lineup Clyb Solstis:

Pwrpas yr digwyddiad, a gynhelir ar gyhydnos yr hydref, yw i godi arian tuag at elusennau Apêl Llifogydd Pacistan a Cam wrth Gam.