Mae’n braf iawn cael cyhoeddi bod un o gyn fandiau ‘Dau i’w Dilyn’ yn rhyddhau eu CD cyntaf heddiw.
Bydd ‘Kim y Syniad’, EP newydd Candelas ar gael i’w brynu o siopau Spillers yng Nghaerdydd, Cob Bangor ac Awen Meirion yn y Bala o heddiw ymlaen.
Roedd Candelas yn un o fandiau Dau i’w Dilyn rhifyn mis Mehefin 2009 o’r Selar – http://issuu.com/y_selar/docs/y_selar_mehefin_09 ac rydan ni’n falch iawn ein bod ni gyda’r cyntaf i sylwi arnyn nhw.
Mae erthygl am yr EP ar Golwg360, gan gynnwys sgwrs efo Ifan Jones o’r grŵp.