Newyddion da o lawenydd mawr – byddwn ni’n argraffu dau grys T nifer cyfyngedig i gydfynd â thaith Slot Selar!
Bydd modd i bobol sy’n mynd i gigs y daith brynu’r crysau sydd wedi eu hysbrydoli gan ganeuon diweddar, a mwyaf poblogaidd dau o’r bandiau sy’n perfformio. Ond, bydd rhaid i chi frysio i gael eich bachau bach blewog arnyn nhw gan mai nifer cyfyngedig o 50 o grysau yr un fydd ar gael i’w prynu.
“Rydan ni wedi penderfynu gwneud argraffiad arbennig o grysau T ar gyfer ffans Sen Segur a Creision Hud” meddai Rheolwr Taith Slot Selar, Aled Ifan.
“Byddan nhw’n rhyw fath o swfenîr i bobl gofio’r daith, ond hefyd yn ffordd o ddangos cefnogaeth i’r grwpiau wrth gwrs.”
Dathlu traciau amlycaf
Mae’r gân Indigo gan Creision Hud eisoes wedi cael ei labelu’n ‘gân yr haf’ gan yr adolygwr Owain Gruffuff yn rhifyn diwethaf Y Selar – bydd crys T arbennig i ddathlu’r sengl gwych a rhyddhawyd ym mis Mai.
Taith Duncan Goodhew ydy teyrnged Sen Segur i’r nofiwr Prydeinig o’r 70au ac 80au. Mae’r Selar wedi penderfynu creu crys arbennig i dalu teyrnged i’r trac seicadelig hwnnw sydd ar eu EP cyntaf, Pen Rhydd.
Fe fydd y crysau arbennig ar gael i’w prynu yn gigs y daith, sy’n dechrau yn nhafarn Dempseys, Caerdydd nos Iau nesaf (23 Mehefin).
Dyddiadau llawn y daith:
23 Mehefin – Dempseys, Caerdydd
24 Mehefin – Clwb RAFA, Aberystwyth
25 Mehefin – The Parrot, Caerfyrddin
1 Gorffennaf – Clwb Base, Bangor
2 Gorffennaf – Clwb Rygbi Nant Conwy, Llanrwst