Cyfle olaf i bleidleisio dros Wobrau’r Selar 2010

Dim ond oriau sydd i fynd nes bod blwch pleidleisio Gwobrau’r Selar yn cau!

Dyma’ch cyfle olaf felly i bleisleisio dros eich hoff artistiaid Cymraeg o 2010 – cliciwch yma i wneud hynny rŵan.

Fe fydd y bleidlais yn cau am hanner nos heno, a bydd y rhestrau byr yn cael ei cyhoeddi wythnos nesaf. Bydd modd i chi weld pwy sydd wedi ennill ym mhob categori yn rhifyn nesaf Y Selar sy’n cael ei gyhoeddi ar 8 Mawrth.