Mae rhifyn cyntaf y flwyddyn o gylchgrawn Gwobrau’r Selar wedi’i gyhoeddi, sydd hefyd yn golygu cyhoeddi enillwyr gwobrau blynyddol y cylchgrawn hefyd.
Roedd y bleidlais ar gyfer y gwobrau eleni wedi bod yn agored i’r cyhoedd ar wefan Y Selar www.y-selar.com rhwng diwedd mis Rhagfyr a dechrau mis Chwefror, gyda’r cyfle i bleidleisio am 10 o’r categorïau amrywiol.
Ymysg yr artistiaid sy’n hawlio gong Gwobrau’r Selar 2010 mae Y Bandana, Crash.Disco!, Jen Jeniro a The Gentle Good. Mae Huw Stephens, Maes-B a Dilwyn Llwyd hefyd yn cael cydnabyddiaeth am eu gwaith da yn y categorïau sy’n ymwneud yn fwy â’r diwydiant.
Mae’r cylchgrawn hefyd yn cyhoeddi ei rhestr flynyddol o ’10 uchaf albyms’ a ddewisir gan gyfranwyr ac ysgrifenwyr Y Selar. Eleni, ail albwm Cowbois Rhos Botwnnog, Dyddiau Du, Dyddiau Gwyn sydd yn hawlio teitl albwm y flwyddyn
“Dwi’n meddwl fod y rhestrau byr a’r enillwyr yn adlewyrchiad reit dda o’r flwyddyn a fu yn y sin gerddoriaeth gyfoes Gymraeg,” meddai golygydd Y Selar, Owain Schiavone. “Mae bandiau fel Y Bandana wedi cael blwyddyn ardderchog ac wedi dod yn boblogaidd iawn tra bod artistiaid fel Crash.Disco! a Gildas hefyd wedi creu marc.”
Mae modd gweld rhestr lawn yr enillwyr a’r rhestr albyms y flwyddyn, ynghyd â sylwadau ysgrifenwyr yn y rhifyn diweddaraf. Mae modd darllen fersiwn electroneg o’r Selar ar lein ar y wefan www.y-selar.com heddiw (8 Mawrth 2011) tra bod y fersiwn print yn cael ei ddosbarthu ledled Cymru dros yr wythnos nesaf.