Cyhoeddi manylion taith ‘Slot Selar’

Mae’r Selar yn falch iawn o gyhoeddi ein bod yn trefnu taith newydd sbon ‘Slot Selar’, gan ddechrau ar 23 Mehefin.

Bydd tri grŵp ifanc a chyffrous yn perfformio ar y daith sef Creision Hud, Sen Segur a Trwbador.

Fe fydd y daith yn dechrau yn Dempseys, Caerdydd ar nos Iau 23 Mehefin ac yn ymweld â thair tref arall cyn gorffen yn Llanrwst ar nos Sadwrn 2 Gorffennaf.

Mae ’na lawer o sôn wedi bod yn ddiweddar am ddiffyg gigs Cymraeg rheolaidd mewn rhai ardaloedd, ac mae aelodau o dîm Y Selar wedi bod yn rhan o’r drafodaeth hon. Bwriad y daith yw ceisio gwneud rhywbeth am hyn, ac ail-danio y traddodiad gigs Cymraeg mewn rhai trefi penodol.

Yn draddodiadol, mae llefydd fel Caefyrddin, Aberystwyth a Bangor wedi bod yn llwyfannau rheolaidd ar gyfer bandiau Cymraeg, ond yn fwy diweddar nid yw hynny wedi bod yn wir. Dyma ymdrech gan Y Selar i geisio llenwi’r bwlch felly.

Bandiau o’r cylchgrawn

Mae’r daith yn cyd-fynd â chyhoeddi rhifyn nesaf Y Selar, fydd allan ar 30 Mai. Yn addas iawn felly, mae dau o’r bandiau sydd ar y daith yn cael eu cyfweld yn y rhifyn newydd, sef Creision Hud a Sen Segur.

Fel rheol, mae gan yr artistiaid sy’n cael sylw yn Y Selar gynnyrch newydd i’w hyrwyddo, ac mae hyn yn wir yn y rhifyn nesaf yma hefyd. Mae’r daith yn gyfle ychwanegol i’r artistiaid hyrwyddo’r cynnyrch yma.

Amserlen lawn taith ‘Slot Selar’:

23 Mehefin – Dempseys, Caerdydd

24 Mehefin – Clwb RAFA, Aberystwyth

25 Mehefin – The Parrot, Caerfyrddin

1 Gorffennaf – Clwb y Rheilffordd, Bangor

2 Gorffennaf – Clwb Rygbi Nant Conwy, Llanrwst

Llun – Prif fand taith ‘Slot Selar’, sef Creision Hud