Cyhoeddi rhestrau byr Gwobrau’r Selar 2010

Cyhoeddi rhestrau byr Gwobrau’r Selar 2010

Mae’r cylchgrawn cerddoriaeth, Y Selar, wedi cyhoeddi’r rhestrau byr ar gyfer eu gwobrau blynyddol.

Am yr ail flwyddyn yn olynol, mae’r gwobrau’n cynnwys 10 categori ac mae’r bleidlais wedi bod yn agored i’r cyhoedd ar wefan y cylchgrawn.

Ymysg y categorïau mwyaf cyffrous eleni mae’r wobr am y gân orau, gyda’r enillydd i ddod o’r rhestr fer o ‘Dolffin Pinc a Melyn’ – Jen Jeniro,’ Y Bêl yn Rowlio’ – Yr Ods, a ‘Cân y Tân’ – Y Bandana.

Pleidlais arall agos oedd honno am yr artist unigol gorau, gyda Gildas, Huw M a The Gentle Good yn brwydro am y teitl.

Golygydd Y Selar yw Owain Schiavone a ddywedodd, “Rydan ni’n rhoi tipyn o egni i mewn i drefnu’r gwobrau gan roi tipyn o bwyslais arnyn nhw yn y cylchgrawn. Dwi’n meddwl ei bod yn wirioneddol bwysig i gael gwobrau fel hyn i ddathlu llwyddiant y sin dros y flwyddyn a fu.”

“Mae’r sin mewn man peryglus ar hyn o bryd lle mae nifer o ffactorau yn gweithio yn ei herbyn. Mae angen hwb ar yr artistiaid yma sy’n gweithio’n galed, ac mae ennill gwobr am eu hymdrechion yn gallu rhoi hwb mawr i fand neu artist i barhau.”

Yn ogystal â’r gwobrau arferol i fandiau ac artistiaid, mae’r Selar wedi cyflwyno rhai gwobrau i’r diwydiant hefyd eleni. Meddai Owain, “mae angen tynnu sylw at y gwaith da mae trefnwyr a hyrwyddwyr yn ei wneud i hybu’r sin – mae pobl fel Dilwyn Llwyd yng Nghaernarfon ac wedyn Guto Brychan a chriw Nyth yng Nghaerdydd, yn gwneud gwaith arbennig i hyrwyddo gigs ac yn haeddu bod ar y rhestr fer yn y categori ‘Hyrwyddwr Gorau’.”

Bydd yr enillwyr yn cael eu datgelu yn rhifyn nesaf Selar sy’n cael ei gyhoeddi ar ddydd Mawrth 8 Mawrth. Bydd y rhifyn hwnnw hefyd yn cynnwys rhestr 10 uchaf albyms Cymraeg 2010, sydd wedi eu dewis gan gyfranwyr rheolaidd y cylchgrawn ac sy’n eitem flynyddol boblogaidd iawn.

Mae’r cylchgrawn yn rhad ac am ddim i ddarllenwyr ac yn cael ei ddosbarthu’n helaeth i ysgolion, colegau, siopau amrywiol a thrwy rwydwaith Mentrau Iaith Cymru. Gellir hefyd lawr lwytho copi electronig ar wefan newydd y cylchgrawn sef www.y-selar.com

Mae’r rhestrau byr fel a ganlyn:

Sengl orau 2010

Rhestr fer: Dal dy Drwyn / Cân y Tân – Y Bandana; Dolffin Pinc a Melyn – Jen Jeniro; Cyfrinach – Clinigol

Ep Gorau 2010

Rhestr fer Yr Ods – Yr Ods, Cerdyn Nadolig – Colorama; Swigod – Clinigol

Clawr CD gorau 2010

Rhestr fer: Nos Da – Gildas, Dyddiau Du, Dyddiau Gwyn,Cowbois Rhos Botwnnog; Yr Ods – Yr Ods

Cân orau 2010

Rhestr Fer: Dolffin Pinc a Melyn – Jen Jeniro; Y Bêl yn Rowlio – Yr Ods, Cân y Tân – Y Bandana

Band Newydd Gorau 2010

Rhestr Fer: Sensegur; Crash.Disco!; Yr Angen

Artist unigol gorau 2010

Rhestr Fer: Gildas; Huw M; The Gentle Good

Digwyddiad Byw gorau 2010

Rhestr Fer: Gadael yr Ugeinfed Ganrif; Maes-B, Eisteddfod Glyn Ebwy; Gŵyl Gwydir

DJ gorau 2010

Rhestr Fer: Crash.Disco!; Huw Stephens; Meic P

Hyrwyddwr gorau 2010

Rhestr fer: Dilwyn Llwyd; Guto Brychan, Criw Nyth

Band gorau 2010

Rhestr Fer: Y Niwl; Y Bandana; Yr Ods