Fe gafwyd dechrau da i gymalau cyntaf Taith Slot Selar dros y penwythnos ac mae’n argoeli’n dda ar gyfer y ddwy gig olaf penwythnos nesaf.
Dechreuodd y daith yn Depseys, Caerdydd nos Iau ac mae sawl person wedi cysylltu i ddweud cymaint y gwnaethon nhw fwyhau’r gig agoriadol.
Y ffilm ‘Capel Garmon’ gan Eryl Jones oedd eitem gyntaf y daith wrth gwrs ac roedd cynulleidfa dda yno i weld ei dangosiad cyhoeddus cyntaf. Rydan ni bellach wedi penderfynu dangos y ffilm unwaith eto yn y gig Llanrwst – mae Capel Garmon yn gorwedd dim ond cwpl o filltiroedd o leoliad y gig yng Nghlwb Rygbi Nant Conwy.
Yn ôl y sylwebyddion, Sen Segur ddaliodd y llygad fwyaf yn Dempseys gyda’u set wreiddiol ac egnïol. Diolch hefyd i Alun Gaffey am lenwi bwlch Trwbador oedd wedi gorfod tynnu nôl funud olaf am resymau tu hwnt i’w rheolaeth.
Ymlaen i Aberystwyth felly…a chyfle cyntaf i Trwbador berfformio ar y daith. Yn ôl y disgwyl, roedden nhw’n hyfryd a hudolus.
Llwyddodd Sen Segur i gynnal eu safon o’r noson flaenorol gyda set wych. Roedd hwyl arbennig o dda ar y Creision Hud a’r banter gyda’r gynulleidfa yn ychwanegu i’r hwyl – ‘Indigo’ a’r hen ffefryn ‘Ffyrdd Gwyrdd’ oedd uchafbwynt y set ond roedd y sengl nesaf (‘Pyramid’ oedd hi?) yn arbennig o dda hefyd.
Caerfyrddin a chanolfan newydd The Parrot. Mae’n amlwg fod y daith newydd, a’r lleoliad newydd wedi dal dychymyg gigwyr Sir Gâr wrth iddyn nhw heidio i Heol y Brenin.
Mae’n siŵr mai’r enw amlycaf yno oedd Dave Datblygu, ac fe ddaliodd Sen Segur ei sylw wrth iddo ddatgan mai nhw oedd y grŵp gorau iddo’i weld ers 20 mlynedd! Dweud mawr yn wir, ond pwy ydan ni i ddadlau efo Dave!