Newydd glywed newyddion bendigedig gan y grŵp Violas am ddyddiadu rhyddhau eu EP newydd.
Mae’r EP ‘Hwylio//Sailing’ sef EP cyntaf y band, yn cael ei ryddhau mewn gig arbennig yn Buffalo Bar, Caerdydd ar nos Wener 18 Tachwedd!
Bydd y gig yn dechrau am 7pm ac yn gorffen am 10pm, felly gig bach neis ar ôl wythnos hir o waith!
Yn ôl y grŵp “bydd yna ‘hand crafted’ CDs ar werth yno hefyd”…felly ewch draw i ddarganfod be mae hynny’n ei olygu!
Yn y cyfamser dyma fideo bach mae’r grŵp wedi creu i hyrwyddo’r gig: