Mae 3 band Cymraeg wedi eu rhestru ar y rhestr hir ar gyfer gwobrau cerddoriaeth newydd gorsaf radio Xfm.
Mae gwobr yr orsaf yn Llundain am albwm cyntaf gorau’r flwyddyn yn adnabyddus yn y byd cerddorol fel un i gadw golwg arno er mwyn darganfod ‘y band mawr nesaf’. Ymysg enillwyr y gorffennol mae The Enemy a Glasvegas.
Eleni, mae albwm cyntaf Y Niwl, Race Horses a Masters in France oll ar y rhestr hir ar gyfer y wobr.
Gallwch bleidleisio yma ar wefan yr orsaf.