Mae’n falch iawn gennym gyhoeddi fod rhifyn nesaf Y Selar i’w gyhoeddi erbyn mis Rhagfyr.
Bydd modd i chi godi eich copi rhad ac am ddim o’r mannau arferol wedi hynny felly!
Mae ’na lwyth o gyfweliadau yn y rhifyn yma yn ogystal â llwyth o adolygiadau CDs, ac erthyglau amrywiol eraill wrth gwrs.
Tydi hi ddim yn rhy hwyr i chi gysylltu â ni os oes cynnyrch newydd ar y gweill cofiwch, ac rydan ni hefyd yn chwilio am ysgrifenwyr newydd i’r cylchgrawn – cysylltwch trwy e-bost os oes gennych ddiddordeb – yselar@live.co.uk