Os ydach chi wedi darllen rhifyn mis Rhagfyr 2011 o’r Selar, fe fyddwch yn gwybod ein bod unwaith eto am ddathlu’r flwyddyn a fu ar ffurf Gwobrau’r Selar 2011.
Newyddion da, mae’r blychau pleidleisio bellach ar agor ac mae modd i chi bleidleisio yma ar wefan Y Selar ar y dudalen hon – http://www.y-selar.com/gwobraur-selar/gwobraur-selar-2011/
Fe fydd y bleidlais ar agor hyd nes 10 Chwefror 2012, felly mae ychydig o amser i feddwl…ond byddwch yn ofalus rhag i i chi anghofio pleidleisio.
Bydd enillwyr y gwobrau’n cael eu cyhoeddi yn rhifyn mis Mawrth o’r Selar.