Premier ffilm canwr roc fel rhan o daith

Bydd yna fonws fach flasus i’r rhai sy’n mynd i gig Slot Selar Dempseys, Caerdydd nos Iau yma wrth i ffilm fer newydd gael ei dangosiad cyhoeddus cyntaf.

Mae’r ffilm hanner awr o hyd yn ddarn o waith gan Eryl Jones, sef prif ganwr y grŵp seicadelic Jen Jeniro.

Wedi ei chynhyrchu fel rhan o gwrs Prifysgol Eryl yng Nghaerdydd, mae ‘Capel Garmon’ yn ymdrin a bro ei febyd yn y pentref hwnnw yn Nyffryn Conwy.

“Ffilm ddogfen o ryw fath ydy hi – rhyw fath o bortread o bentref bach yng Ngogledd Cymru” meddai Eryl Jones.

“Mae’n edrych ar beth sy’n mynd mlaen yn y pentref ar hyn o bryd, ac ar y llaw arall beth sydd ddim yn mynd ymlaen yno” ychwanegodd.

“Gobeithio ei bod yn berthnasol i nifer o bentrefi cefn gwlad Cymru, ac felly’n canu cloch efo llawer o’r gwylwyr.”

Mae’r ffilm ddogfen wedi cael ymddangosiadau mewnol yn y Brifysgol dros yr wythnos diwethaf, ond y dangosiad yn Dempseys fydd y cyntaf i’r cyhoedd.

Bydd y ffilm yn cael ei dangos am 8pm ac mae’r trefnwyr yn gofyn i’r gynulleidfa gyrraedd yn brydlon. Bydd y grŵp gwych Trwbador yn dilyn am 9pm.