Rhifyn Awst

Mae rhifyn Awst o’r Selar allan nawr!

Mae hwn yn rifyn bach amrywiol iawn sy’n cynnwys cyfweliad gyda’r Violas sgwrs efo Sibrydion am eu albwm newydd; a chyfweliad efo Rhys Aneurin am ei waith celf cerddorol.

Yn ogystal â hyn mae nifer o’ch hoff eitemau rheolaidd gan gynnwys Dau i’w Dilyn, Adolygiadau ac wrth gwrs colofn y Badell Ffrio.

Gallwch godi copi caled o’r llefyd arferol, neu fyddan nhw’n bla o gwmpas y Steddfod wrth gwrs. Os na alwch chi ddisgwyl, cliciwch yma i ddarllen y fersiwn electronig.