Rhifyn nesaf Y Selar

Mae rhifyn mis Mehefin o’r Selar ar fin cael ei gwblhau.

Fe fydd y rhifyn newydd allan ar 30 Mai, sef dydd Llun cyntaf Eisteddfod yr Urdd wrth gwrs.

Yn y rhifyn newydd mae cyfweliad gyda dau o fandiau ifanc mwyaf cyffrous y sin, sef Sen Segur a Creision Hud. Bydd cyfle i chi hefyd weld lluniau o sesiwn luniau ecsgliwsig Y Selar gyda’r ddau fand.

Rydan ni hefyd ar fin dechrau tymor y gwyliau cerddorol hefyd wrth gwrs. Ddim yn siŵr pa rai i’w mynychu eleni? Na phoener, mae’r Selar wedi paratoi canllaw arbennig i chi ddarllenwyr lwcus.

Fe fydd copiau Y Selar ar gael ar faes yr Eisteddfod yn Abertawe, ynghyd a’r llefydd arferol eraill. Bydd hefyd modd chi ddarllen copi ar-lein fel arfer wrth gwrs.