Hogia gwallgof ydy hogiau Creision Hud!
Maen nhw’n honi rŵan eu bod nhw’n bwriadu rhyddhau sengl newydd bob mis yn 2011. Ydyn wir, dyna’r bwriad yn ôl un o’r aelodau, a credwch neu beidio, mae’n ymddangos eu bod nhw o ddifrif hefyd.
Er eu bod nhw wedi dal ati i gigio’n weddol rheolaidd, mae’r ‘Hud’ wedi bod yn gymharol dawel dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Fe wnaethon nhw daranu ar y sin nôl yn 2007 gan ennill cystadleuaeth Brwydr y Bandiau Maes B yn Eisteddfod Genedlaethol Yr Wyddgrug y flwyddyn honno. Ychydig dros flwyddyn yn ddiweddarach fe wnaethon nhw ryddhau eu sengl cyntaf, Ffyrdd Gwyrdd, ar Ciwdod – un o gyfres o senglau gan Ciwdod n y cyfnod hwnnw (gol – maen nhw wedi stopio gwneud hynny rŵan yn anffodus).
Ta waeth, yn ôl at y pwynt…mae’r grŵp o ardal Caernarfon wedi penderfynu cael blwyddyn gynhyrchiol yn 2011. “Ar gyfer 2011 mi fydd Creision Hud yn rhyddhau sengl newydd bob mis,” medda’r band cyn ychwanegu “am y 6 mis gynta o leia.”
Fe gafodd y sengl gyntaf, ‘Cyllell’, ei rhyddhau ar 31 Ionawr ac mae ‘She Said’ allan ar 21 Chwefror.