Sengl newydd Creision Hud ynghynt na’r disgwyl

Mae un peth yn sicr, tydi’r Creision Hud ddim yn grŵp sy’n hoffi bod yn segur!

Dim ond diwrnod ar ôl iddynt orffen headlinio taith Slot Selar trwy Gymru, mae’r grŵp wedi cyhoeddi bod eu sengl ddiweddaraf ar gael i’w lawr lwytho rŵan.

Dim ond dydd Iau diwethaf y rhyddhaodd Creision Hud eu seithfed sengl mewn saith mis, Cysgod y Cyrion.

Er hynny mae’r wythfed, Pyramid, bellach ar gael i’w lawr lwytho AM DDIM ar eu safle Soundcloud – www.soundcloud.com/creisionhud

Da di’r hogia!

Bu Creision Hud yn perfformio’r gân newydd yn fyw am y tro cyntaf ar daith Slot Selar a bydd y newyddion ei bod eisoes ar gael i’w lawr lwytho’n sypreis fach neis i’r rhai fu yn y gigs hynny mae’n siŵr.

Mae Pyramid yn ddatblygiad pellach i sŵn bywiog a chyffrous y Creision Hud ac yn siŵr o gael ei chwarae’n rheolaidd dros y tonfeddi.

Os ydach chi’n dal i ddarllen hwn, beth yn y byd sy’n bod arnoch chi – ewch draw i lawr lwytho’r sengl newydd yn reit handi!