Slot Selar drosodd am y tro…

Wel, mae taith gyntaf Slot Selar wedi dod i ben ar ôl 5 o gigs gwych ledled Cymru.

Diolch i bawb fu yn un neu fwy o’r gigs, ac i’r bandiau am roi cystal sioe ym mhob lleoliad.

Roedd yn wych cael cyfle i lwyfannu tri grŵp ifanc gwirioneddol addawol ar y daith gyntaf, ac mae’r daith hefyd wedi bod yn brofiad da iddynt hwy.

Mae’r daith hefyd wedi rhoi cyfle i ni arbrofi gyda lleoliadau newydd ar gyfer gigs Cymraeg, ac mae potensial go iawn i rai o’r rhain ddod yn ganolbwynt ar gyfer gigs Cymraeg yn eu hardal.

Rydym yn teimlo bod y daith wedi profi bod modd gwneud rhywbeth fel hyn a sefydlu rhyw fath o gylchdaith ar gyfer cerddoriaeth Gymraeg.

Daeth y daith i ben yng Nghlwb Rygbi Nant Conwy ger Llanrwst nos Sadwrn, ac roedd yn noson berffaith i ddiweddu’r gyfres o gigs.

Mae newyddion da i’r rhai na fu yn y gigs – mae rhai o’r crysau t arbennig ar ôl a bydd modd i chi eu harchebu ar wefan www.sadwrn.com yn fuan iawn.

Diolch eto i bawb am gefnogi’r daith.