Y Selar / Prifysgol Bangor
Ysgoloriaethau MA – Mynediad i Radd Meistr
Mae Prifysgol Bangor, ar y cyd â’r Selar, yn cynnig ysgoloriaeth i fyfyrwyr sydd yn dymuno gwneud Gradd Meistr ym maes y Diwydiannau Creadigol, trwy’r cynllun Mynediad i Radd Meistr. Mae’r cynllun hwn yn seiliedig ar bartneriaethau rhwng myfyrwyr ôl-radd a chwmnïau perthnasol
.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael lle ar gwrs Gradd Meistr yn Ysgol Astudiaethau Creadigol a’r Cyfryngau, Prifysgol Bangor, yn ogystal â
- Ffioedd Dysgu wedi eu talu gan Brifysgol Bangor
- £5,368 o lwfans
- £788 tuag at eu treuliau a chost offer
- Cyfle i gyd-weithio gyda chylchgrawn Y Selar
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus gymhwyster gradd mewn maes penodol, a diddordeb mewn ymchwil ym maes newyddiaduraeth neu’r cyfryngau.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch a Phrifysgol Bangor ar 01248 382501neu atm@bangor.ac.uk
Dyddiad Cau: 31ain Awst, 2011
Mae hwn yn ail-hysbysebiad. Anogir ymgeiswyr i gysylltu ar fyrder.