Ydy, mae ffurflen bleidleisio Gwobrau’r Selar bellach ar agor.
Ond, efallai nad yw pawb yn ymwybodol o’r wobr ariannol wych sydd ar gael i enillwyr dau o’r categoriau eleni, sef ‘Band Byw’ a ‘Cân y Flwyddyn’.
Diolch i bartneriaeth newydd gydag S4C a rhaglen Cân i Gymru, bydd enillwyr y ddau gategori yma’n cipio gwobr ariannol o £1000 yr un yn ogystal â thlws hyfryd fel pawb arall!
Mae hyn o ganlyniad i awydd Cân i Gymru i ehangu ei chefnogaeth i’r sin gerddoriaeth Gymraeg Gyfoes.
Yn ogystal â chynnig gwobr ariannol i enillwyr dau o gategoriau Gwobrau’r Selar, mae £1000 i enillwyr dau o gategoriau Gwobrau RAP Radio Cymru hefyd, sef ‘Albwm y Flwyddyn’ a ‘Grŵp a Ddaeth i Amlygrwydd’.
“Y bwriad ydi cefnogi artistiaid sy’n gweithio gydol y flwyddyn ar yr un pryd ag annog caneuon a chyfansoddwyr newydd i drio am wobr flynyddol Cân i Gymru” meddai Comisiynydd Rhaglenni S4C, Gaynor Davies.
“Da iawn wir – cam mawr i’r cyfeiriad cywir” meddai Y Selar!