10 Mewn Bws

10 Mewn Bws

Mae ‘trac’ yn fudiad sy’n tueddu i gael ei gysylltu â cherddoriaeth werin, ond mae ganddyn nhw brosiect newydd difyr a fydd o ddiddordeb i rai o’n grwpiau mwyaf cyfoes ni.

Bydd prosiect ‘10 Mewn Bws’ yn chwilio am ddeg o gerddorion sy’n awyddus i “ailddarganfod eu gwreiddiau cerddorol”, ac yn awyddus i glywed gan gerddorion o bob genre.

Bydd y deg yn cael cyfle i bori trwy archifau sain Sain Ffagan a’r Llyfrgell Genedlaethol, ac yn cael eu hannog i gyfansoddi deunydd newydd yn seiliedig ar eu profiadau. Bydd y deg yn recordio albwm o’u gwaith terfynol ac yn cael cyfle i berfformio’r gwaith i gynulleidfaoedd ledled Cymru, a thu hwnt.

“Nod y prosiect yw ail-ddehongli’r deunydd mewn ffordd sy’n naturiol a pherthnasol i’r cerddorion, ac i gynulleidfaoedd heddiw” meddai Angharad Jenkins, Swyddog Prosiect trac.

“Ry’n ni’n chwilio am deg o gerddorion talentog o gefndiroedd gwahanol – o hip-hop i jazz, o electro i glasurol, gwerin i roc – does dim cyfyngiadau.”

“Y peth pwysig yw eu bod nhw’n gallu dangos gwir ddiddordeb yn eu gwreiddiau cerddorol. Rhaid iddynt fod yn awyddus i ddarganfod o ble mae cerddoriaeth ‘poblogaidd’ y Cymry wedi hanu, a’i hawlio nôl fel eu cerddoriaeth hwy.”

“Mae lan iddyn nhw sut maen nhw’n penderfynu dehongli’r deunydd, ond rhaid dangos gwir ddiddordeb, ac efallai bach o wybodaeth am y sin yng Nghymru, i fod yn rhan o’r prosiect.”

Maen nhw’n chwilio am y deg ar hyn o bryd, gyda’r bwriad o’u cadarnhau cyn y Nadolig – cysylltwch ar prosiect@trac-cymru.org os oes gennych ddiddordeb.