Beth am Bethel?

Mae’r sin yn gweld llu o gynnyrch yn cael ei ryddhau ar ddiwedd y flwyddyn galendr – gwych o beth.

Y diweddaraf ydy albwm hirddisgwyliedig Gai Toms, Bethel, sy’n cael ei lansio ar nos Iau Rhagfyr.

Mae Gai wedi bod yn addo’r albwm ddwbl yma ers peth amser, felly roedd Y Selar yn falch iawn o gael gwahoddiad i’r lansiad neithiwr, a gweld bod y record yn gweld golau dydd o’r diwedd.

Mae’r lansiad yn digwydd yn Cell B ym Mlaenau Ffestiniog. Bydd Gai a’i fand ffyddlon yn perfformio, a bydd gwin cynnes a nibyls ar gael i bawb. Bydd yr albwm newydd ar gael i’w phrynu ar y noson hefyd.

Mae CD cyntaf y record ddwbl yn cynnwys deg o ganeuon gwerin gwreiddiol, tra bod yr ail yn gymysgwch o ganeuon o amryw genres sydd wedi eu recordio gyda’i fand.

Bu llu o bobl amlwg yn cyfrannu at Bethan gan gynnwys dau gôr, Dr Meredydd Evans, Ceri Cunnington, Phil Lee Jones ac Owain Jones, basydd Masters in France.

Fe wneith anrheg Nadolig perffaith i rywun dwi’n siŵr!