Cyhoeddi manylion noson wobrwyo

Reit, dyma ni – y newyddion cyffrous mae pawb wedi bod yn disgwyl i’w glywed…bydd noson wobrau cyntaf Y Selar yn cael ei chynnal yn Hendre Hall ar nos Sadwrn 2 Mawrth 2013.

Byddwn ni’n rhoi llwyfan i rai o artistiaid mwyaf gweithgar 2012 ar y noson, mewn parti mawr i ddathlu llwyddianrt y flwyddyn a fu.

Bydd enwau’r artistiaid sy’n perfformio’n cael eu cyhoeddi dros yr wythnosau nesaf, ond mae un peth yn sicr, bydd yn achlysur i’w gofio.

Y gobaith ydy bydd Noson Wobrau’r Selar yn dod i fod yn ddigwyddiad blynyddol, ac yn un o uchafbwyntiau’r calendr cerddorol Cymreig.

“Y nod yn y pendraw oedd cyflwyno noson wobrwyo, a dwi’n credu bod yr amser yn iawn i wneud hynny rŵan” meddai Owain Schiavone, Uwch Olygydd Y Selar.

“Ar ddechrau’r 1980au roedd noson wobrau cylchgrawn Sgrech yn ddigwyddiadau enfawr, ac yn binacl blynyddol i’r sin gerddorol a’r gobaith ydy y gall Y Selar gynnig rhywbeth tebyg.”

“Does ‘na ddim gigs na gwyliau mawr Cymraeg yn y gwanwyn ar hyn o bryd, felly efallai y gallwn ni lenwi bwlch a dod yn ŵyl gynta’r flwyddyn. Yn sicr fe fydd yn gig gwych gydag awyrgylch parti.”

Mae Gwobrau’r Selar yn bleidlais gyhoeddus dros gyda 10 categori i’w gwobrwyo – mae’r bleidlais bellach yn agored ar-lein – http://apps.facebook.com/gwobrau-selar/

Mae Digwyddiad Facebook wedi’i greu ar gyfer y noson wobrau yma.

Pleidleisiwch a rhannwch y bleidlais a’r digwyddiad gyda’ch ffrindiau!