Dyma ni, y newyddion rydach chi oll wedi bod yn disgwyl yn eiddgar amdano…mae ffurflen bleidleisio Gwobrau’r Selar 2012 bellach AR AGOR!
Mae modd i chi bleidleisio gan ddefnyddio eich cyfrif Facebook trwy glicio yma.
Os nad ydach chi ar Facebook, wel peidiwch a phoeni – mae croeso i chi anfon eich dewisiadau i ni ar e-bost – y-selar@live.co.uk. Mae modd i chi weld yr holl gategoriau fan hyn – http://www.y-selar.com/gwobraur-selar/gwobraur-selar-2012.
Dim ond unwaith rydach chi’n cael pleidleisio felly meddyliwch yn ofalus cyn dewis eich enillwyr!
Cofiwch ein bod ni’n bwriadu cynnal Noson Wobrwyo arbennig eleni – newyddion am hyn i ddilyn dros y dyddiau nesaf…