Nos Iau diwethaf, cynhaliwyd ail rownd gynderfynol cystadleuaeth Brwydr y Bandiau C2 eleni.
Sgidie Glas, Tymbal, Match House ac Yr Ayes oedd y 4 grŵp ifanc oedd yn brwydro am y cyfle i ymuno â Nebula a Fast Fuse yn y ffeinal.
Llongyfarchiadau mawr i Sgidie Glas a Tymbal a ddaeth i’r brig – byddan nhw nawr yn ymladd am deitl enillydd Brwydr y Bandiau C2 2012 ar Ebrill 18.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn tiwnio i Radio Cymru ar y noson honno felly i weld pwy fydd yn dod i’r brig eleni.