Newyddion cyffrous iawn wedi torri o dŷ’r Race Horses dros nos.
Mae’r grŵp, ddaeth i amlygrwydd yn wreiddiol dan yr enw Radio Luxembourg, wedi cyhoeddi y byddan nhw’n cefnogi neb llai na’r Kaizer Chiefs ar daith ym mis Chwefror 2013.
Byddan nhw’n chwarae 7 o gigs efo un o grwpiau mwyaf y sin Brydeinig rhwng 11 a 19 o Chwefror.
Dyma lun o’r drymiwr Gwion Llewelyn a Mali Llywelyn o’r grŵp yn edrych yn falch iawn o’u hunain yn dal rhestr lleoliadau’r daith: