Rhifyn Ebrill yn cael ei ddosbarthu

Rhag ofn eich bod chi wedi bod yn byw mewn ogof dros yr wythnos ddiwethaf, mae rhifyn diweddaraf Y Selar bellach wedi’i gyhoeddi.

Mae’r cylchgrawn wrthi’n cael ei ddosbarthu felly dylech allu cael gafael ar gopi o’r mannau arferol cyn diwedd yr wythnos. Fel arall, mae hefyd modd i chi ddarllen y fersiwn elecronig fan hyn wrth gwrs.

Ar ôl holl gyffro’r pleidleisio, bydd modd i chi ddarganfod pwy sydd wedi dod i’r brig yn holl gategoriau Gwobrau’r Selar yn y rhifyn yma.

Llongyfarchiadau mawr i bawb sydd wedi ennill – heb os mae wedi bod yn flwyddyn arbennig o dda, a gobeithio bod hynny’n arwydd da ar gyfer y dyfodol. Beth am i ni wneud 2012 yn flwyddyn cystal, neu hyd yn oed gwell!