Newyddion gwych i chi ddarlenwyr ffydlon!
Mae rhifyn diweddaraf Y Selar, sef rhifyn Rhagfyr 2012, yn mynd i brint yr wythnos hon ac fe fydd yn cael ei ddosbarthu’n helaeth yn y mannau arferol dros yr wythnosau nesaf.
Mae hwn yn rifyn bach da iawn, hyd yn oed os mai ni sydd yn dweud hynny! Mae’n cynnwys cyfweliad efo Gwenno, sgwrs efo criw Recordiau Lliwgar am eu prosiect diweddaraf a chyfweliad efo Plant Duw am eu EP newydd.
Joio.