Mae’r wythnos hon yn gweld cynnal rowndiau cynderfynol cystadleuaeth Brwydr y Bandiau C2.
Roedd y gyntaf o’r ddwy rownd neithiwr, a’r ddau fand sydd wedi cyrraedd y ffeinal ydy Nebula a Fast Fuse – llongyfarchiadau mawr iddyn nhw.
Bydd yr ail rownd ar raglen Lisa Gwilym heno (20:00 – 22:00), pryd bydd Sgidie Glas, Tymbal, Match House ac Yr Ayes yn cystadlu am y ddau le olaf yn y rownd derfynol. Pob lwc i’r pedwar.
Mae’r rownd derfynol yn digwydd ar 18 Ebrill.