Sengl Nadolig Lowri Evans

Mae’r Selar wedi bod yn siarad â’r gantores o Sir Benfro, Lowri Evans, sydd ar hyn o bryd yn y stiwdio’n recordio EP Cymraeg newydd.

Fel tamaid i aros pryd, fe fydd yn rhyddhau sengl Nadolig arbennig o’r enw ‘Tŷ am y Nadolig’.

Bydd y sengl yn cael ei ryddhau ar 3 Rhagfyr, a hynny’n ddigidol. Bydd copiau caled ar gael i’w prynu yn gigs Lowri hefyd – mae rhestr cyfredol o’r rhain ar ei gwefan.

Os nad oes modd i chi gyrraedd un o’i gigs, yna bydd cyfle i chi glywed Lowri’n perfformio’r gân yn fyw ar y radio pan fydd yn westai ar raglen Dafydd a Caryl ar Radio Cymru. Fe fydd yn perfformio ar y rhaglen gyda band llawn ar 14 Rhagfyr.

Does dim dyddiad rhyddhau pendant ar gyfer yr EP eto, ond mae’n debygol o fod allan ym mis Mai neu Mehefin 2013.