Sylw i Sen Segur

Mae un o hoff fandiau ifanc Y Selar, Sen Segur, yn denu tipyn o sylw yn y wasg gerddoriaeth ar hyn o bryd.

Ers eu cyfweliad yn rhifyn mis Mehefin 2011 o’r Selar, mae’r grŵp o Benmachno yn Nyffryn Conwy wedi mynd o nerth i nerth.

Roedd eu EP cyntaf, Pen Rhydd, allan ar label Cae Gwyn erbyn hynny wrth gwrs ac yn fuan wedyn roeddwn nhw’n un o’r bandiau a fu’n perfformio fel rhan o daith genedlaethol Slot Selar.

Roedden ni’n falch iawn o glywed yn ddiweddar fod cylchgrawn ‘M Magazine’ y PRS wedi rhoi sylw iddyn nhw fel un o artistiaid newydd mwyaf cyffrous 2011. Er fod yr erthygl yma’n llawn gwallau ffeithiol (Gwynedd?) a sillafu (Eisteddford?), mae’n sylw ac yn glod i’r cynnydd mae’r grŵp wedi gwneud.

Ddoe yn y Daily Post, roedd erthygl gadarnhaol iawn arall i’r hogs, ac rydan ni’n edrych ymlaen i’w gweld nhw mewn gig arbennig mae’r Selar yn ei drefnu yn Aberystwyth ddiwedd mis Ionawr.

Mae’r sylw’n dod ar amser da i Sen Segur, sy’n rhyddhau eu sengl newydd ‘Sarah / Nofa Scosia’ ar label I Ka Ching ar 16 Ionawr.

Video Sen Segur yn perfformio’r gân Cyfoeth Gwlyb yn ystod gig Slot Selar Aberystwyth (Clwb RAFA)yng Nghorffennaf 2011. Da’r ‘ogia.