Tocynnau ’50’ ar werth

Mae tocynnau gig mawreddog ’50’ Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ar werth ers hanner dydd heddiw.

Cyhoeddodd un o’r trefnwyr, Huw Lewis, yn fyw ar raglen Lisa Gwilym ar C2 nos Lun bod nifer cyfyngedig o 250 o docynnau’n mynd ar werth am bris gostyngol o £20 o hanner dydd heddiw.

Y pris sylfaenol ar gyfer tocynnau fydd £25, a bydd rhain yn cael eu rhyddhau’n swyddogol ar 1 Mawrth.

Mae’r gig yn cael ei weld fel pinacl dathliadau penblwydd mudiad Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn 50 oed, a bydd 50 o artistiaid yn perfformio fel rhan o’r parti dathlu mawr yn y Pafiliwn Cenedlaethol ym Mhontrhydfendigaid (ger Aberystwyth).

Cyhoeddwyd enw’r artist cyntaf i’w gadarnhau, sef Gruff Rhys, yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam ym mis Awst. Ers hynny, mae’r trefnwyr wedi bod yn cyhoeddi un enw artist bob wythnos.

Mae rhestr lawn yr artistiaid sydd wedi cadarnhau hyd hyn hyn, ynghyd â manylion ynglŷn â sut i archebu tocyn ar wefan swyddogol y digwyddiad http://hannercant.com