Mae’r Selar yn falch iawn i gyhoeddi ein bod yn cynnal gig arbennig yn y Llew Du, Aberystwyth ar nos Wener 27 Ionawr.
Byddwn yn croesawu Y Niwl i Aberystwyth i headlinio am y tro cyntaf, a bydd Sen Segur yn eu cefnogi nhw.
Hwn fydd dim ond ail gig Y Niwl yn Aberystwyth – fe wnaethon nhw chwarae gig yn y Cwps, yn cefnogi Kate le Bon yn ystod dyddiau cynnar iawn y grŵp ym Mawrth 2010.
Mae manylion llawn y gig ar dudalen Facebook y digwyddiad
Fideo Undegpedwar gan Y Niwl.