Y Selar yn ennill gwobr

Rydan ni’n falch iawn i allu dweud bod Y Selar wedi ennill gwobr arbennig gan Gyngor Llyfrau Cymru!

Cynhaliwyd noson wobrwyo’r diwydiant cyhoeddi yng Nghymru yn Aberystwyth nos Iau diwethaf.

Mae’r gwobrau fel arfer wedi eu cyfyngu i lyfrau amrywiol, ond roedd un categori newydd eleni ar gyfer cylchgronau,a wyddoch chi be? Y Selar aeth â hi!

Mae’r wobr am y gwaith dylunio a chynhyrchu gorau gan gylchgrawn Cymraeg, ac mae llawer o’r diolch yn gorfod mynd i’n dylunydd annwyl ni, Elgan Griffiths.

Diolch o galon i’r Cyngor Llyfrau am y gydnabyddiaeth – rydan ni’n edrych ymlaen at gael amddiffyn ein coron pan fydd y gwobrau’n cael eu cynnal nesaf!

Gallwch ddarllen mwy am y gwobrau fan hyn.