Ciron Gruffydd sydd wedi bod yn gwrando ar albwm ddwbl newydd Gai Toms….
O riffs ska Anweledig i naws gwerinol Mim Twm Llai ac o albwm werdd gysyniadol at y gân “fformiwla” enillodd Cân i Gymru 2012 – mae Gai Toms yn gerddor sydd ddim ofn mentro.
Ac mae’r un yn wir am yr albwm newydd. Mae Gai Toms wedi buddsoddi mewn festri hen gapel yn ardal Ffestiniog er mwyn ei throi yn stiwdio recordio.
Ond cyn iddo ddechrau ar y gwaith, mae wedi mynd ati i greu’r albwm ddwbl hon sy’n pontio gorffennol yr adeilad a’r dyfodol newydd.
Ac o’r gân gyntaf ar y CD cyntaf, Bethel Hen, sy’n ddeuawd gyda Dr Meredydd Evans oedd yn arfer mynd i ysgol Sul yn y capel, mae Gai Toms yn llwyddo mynd a gwrandawr ar daith.
Mae caneuon fel ‘Y bonws’ yn ddathliad o’r diwydiant llechi tra bod ‘Ar y Moelwyn’, gyda geiriau gan Dewi Prysor, yn paentio llun o’r tirlun mynyddig sy’n amgylchynu tref Blaenau Ffestiniog. Y cyfan i gyfeiliant syml gitar a llais, sy’n teimlo’n weddus fel cerbyd i gofio gorffennol symlach.
Mae’r ail CD, Bethel Newydd, ar y llaw arall, yn gynhyrchiad llawn gyda’r band sy’n arddangos dawn Gai fel cerddor sy’n gyfforddus gydag amrywiaeth o steiliau cerddorol – o roc a rôl ‘Anti Paganda’ i dyb ‘Llyn Tekapo’ i sŵn disgo ‘Glaw yr Haf’.
Ond er yr amrywiaeth, i mi mae’r albwm yn gweithio fel cyfanwaith a dyma pam:
Mae cyfraniadau gan aelodau bandiau Anweledig, Gwibdaith Hen Fran ac Estella, Seindorf Oakley, Côr y Moelwyn ac Ysgol Gynradd Tanygrisiau i gyd yn rhoi’r teimlad eich bod chi’n cael cipolwg i fyd arall , byd Gai Toms, sy’n gweithio’n rhyfeddol o dda.
Tydi’r albwm ddim yn berffaith ac mae rhai caneuon yn torri ar lif y peth yn fy marn i. Ac rwy’n credu y bydd rhai o ddilynwyr Gai Toms yn ffafrio un CD dros y llall.
Ond mae hi’n record sy’n eich tynnu i mewn ar bob gwrandawiad nes eich bod chithau hefyd yn teimlo’n rhan o’r ardal, y gymdeithas a chapel Bethel.
8/10