Mae albwm Cymraeg cyntaf 2013 wedi’i ryddhau!
Un Tro gan Siddi ydy’r record newydd dan sylw, ac fe’i ryddhawyd ar label I Ka Ching ddoe – yn anffodus, fyddech chi ddim wedi clywed llawer am y peth ar Radio Cymru am resymau amlwg!
Siddi ydy prosiect y brawd a’r chwaer o Lanuwchllyn, Branwen (Sbrings) ac Osian Williams. Fe wnaeth Y Selar sôn amdanyn nhw yn Dau i’w Dilyn nôl yn 2010, ac o’r diwedd maen nhw wedi llwyddo i orffen eu record gyntaf!
9 cân sydd ar yr albwm gysyniadol yma sy’n seiliedig ar hen stori dylwyth teg o ardal Y Bala.
Mae ’na fwy o wybodaeth, ynghyd â thrac y gallwch lawr lwytho am ddim ar dudalen Bandcamp y grŵp.