Mae’r Selar yn falch iawn o gyhoeddi ein bod yn curadu slot dyddiol ar lwyfan perfformio Eisteddfod yr Urdd Preseli eleni.
Dyma’r drydedd flwyddyn i’r Selar gydweithio â’r Urdd i roi llwyfan i rai o artistiaid mwyaf cyffrous y sin ar faes prifwyl ieuenctid Cymru.
Mae slot ‘Awr Selar’ yn digwydd am 1:00 bob dydd ar lwyfan perfformio maes yr Eisteddfod sy’n dechrau ar ddydd Llun 27 Mai.
Mae’r arlwy’n agor gyda’r band ddaeth i frig pleidlais gwobr ‘Grŵp Newydd Gorau’ Gwobrau’r Selar eleni, sef Y Bromas. Bydd y slotiau’r wythnos yn cloi ar y dydd Sadwrn olaf gyda pherfformiad gan y rocars lleol Mattoidz.
Lein-yp llawn ‘Awr Selar’
Llun – Y Bromas
Mawrth – Sŵnami
Mercher – Tom ap Dan
Iau – Gildas
Gwener – Mellt
Sadwrn – Mattoidz