Brwydrau Allweddol Cwpan Jarman

Wrth i’r gystadleuaeth fawr nesáu, rydan ni wedi dewis rhai o frwydrau mwyaf diddorol Cwpan Jarman.

Gareth Iwan (C2) v Barry Chips (Y Selar)

Dau hen ben, sydd efallai wedi colli ychydig o’u cyflymder bellach, ond sydd yr un mor gyflym eu meddwl ag erioed. Y ddau’n arfer chwarae 5 bob ochr efo’i gilydd, ond heb ddod wyneb yn wyneb ers rhai blynyddoedd.

Ceri Cunnington (Cigfrain Sbensh) v Ryan Kift (Y Llesbians)

Dau o gymeriadau mwyaf y gystadleuaeth, ond dau wahanol iawn o ran pryd a gwedd ac arddull chwarae. Mae Ceri, er gwaethaf ei daldra, yn osgeiddig ac yn llawn triciau tra bod Kift fel teriar ar y cae. Byddan nhw yng ngêm olaf cymal y grwpiau.

Llafnau Ifanc Sŵnami v Llafnau Ifanc Sen Segur

Mae’n siŵr mai cymysgedd o ieuenctid a phrofiad ydy’r fformiwla gorau ar gyfer 5-bob-ochr fel rheol, ond mae timau Sŵnami ac I Ka Ching yn llawn o ieuenctid brwdfrydig. Dau o grwpiau ifanc mwyaf cyffrous y sin, a bydd y frwydr rhyngddynt yn grŵp 1 un yn un i’w gwylio.

Y Selar v Oranje Rhos Botwnnog

Mae hogia Cowbois wedi bod yn paratoi’n drylwyr ar gyfer y gystadleuaeth, ond gallai’r gêm yma yng ngrŵp 2 droi’n hyll…ond ddim ond oherwydd y clash afiach rhwng crysau oren y Cowbois a marŵn Y Selar – ych a fi!

Jason Hughes (Cigfrain Sbensh) v Osian Williams (Oranje Rhos Botwnnog)

Dau ‘ddrymiwr sy’n canu’ mwyaf adnabyddus Cymru efallai, Does ‘na neb wedi gweld Jason y tu allan i Blaenau ers i Frizbee chwalu, ond mae ganddo droed chwith gelfydd. Mae Osian yn chwaraewr ‘lycshari’ yn ôl rhai, ym mowld Dimitar Barbatov, ond mae’n gallu ennill gemau ar ei ddydd hefyd.

Bydd y gemau cyntaf am 2:00 ar y cyrtiau pêl-droed ger pwll nofio Bangor – peidiwch methu’r digwyddiad hanesyddol yma…a Gwobrau’r Selar gyda’r hwyr wrth gwrs!