Cai Morgan yn adolygu 100 o Ganeuon Gwerin

Does dim dwywaith fod canu gwerin yn boblogaidd iawn yn y sin dyddiau yma, meddyliwch am boblogrwydd bandiau fel Cowbois a llwyddiant y Daith Werin Gyfoes cyn y Nadolig. Dyma’r amser perffaith felly ar gyfer llyfr o ganeuon gwerin, a choeliwch neu beidio, dyna’n union sydd yn llyfr newydd Y Lolfa, ‘100 o Ganeuon Gwerin’!

Cafodd y llyfr ei gyhoeddi tuag at ddiwedd 2012 a dyna gafodd Cai Morgan (Y Rwtch) yn anrheg Nadolig gan Y Selar. Mae o wedi bod yn pori trwyddo ers hynny ac wedi mynd i’r drafferth i greu adolygiad fideo ar ein cyfer. Ac fe gafodd Cai ei blesio hefyd (ar wahân i’r clawr!):

“Yn y llyfr yma mae yna lot fawr o ganeuon gwahanol, caneuon sy’n llawn hiwmor a chwerthin, hwiangerddi, lot fawr o bethau gwahanol. Felly peidiwch â meddwl fod hwn yn llyfr sy’n llawn caneuon diflas.”

Gwyliwch yr adolygiad cyfan isod