Rydan ni’n ymwybodol ers peth amser (ers noson Wobrau’r Selar i fod yn fanwl gywir) fod criw gweithgar Nyth yn bwriadu arbrofi gyda rhyddhau cerddoriaeth yn ogystal â’i hyrwyddo ar lwyfannau amrywiol.
Mae cryn edrych ymlaen i weld sut siap fydd ar y record aml-gyfrannog ‘O’r Nyth’ ac mae’r criw wedi cyhoeddi heddiw fod cyfle cyntaf i glywed un o’r traciau yn ecsgliwsif ar raglen Lisa Gwilym ar C2 Radio Cymru heno (19:00-22:00).
Wrth i ni dyrchu ymhellach mae Gwyn Eiddior o Nyth wedi datgelu i’r Selar mai ‘Fy Natur Ddeuol’ gan Alun Gaffey ydy’r trac dan sylw – trac sydd wedi’i recordio a’i gyd-gynhyrchu gan Frank Naughton.
Gallwn ddatgelu hefyd y bydd cyfle i chi wrando ar weddill y caneuon, yn ogystal â chlywed cyfweliad arbennig am yr albwm ar raglen Lisa Gwilym nos Fercher nesaf.
Bydd O’r Nyth yn cael ei lansio mewn gig arbennig yng nghartref ysbrydol Nyth, sef Gwdihŵ yng Nghaerdydd ar 19 Hydref,