Dau o hoelion wyth y sin gerddoriaeth Gymraeg gyfoes dros y ddeng mlynedd diwethaf fydd yn cyflwyno Noson Wobrau’r Selar.
Dyl Mei a Gethin Evans fydd yn arwain y parti yn Neuadd Hendre ar nos Sadwrn 2 Mawrth.
Roedd Dyl yn aelod o dau o grwpiau mwyaf y sin yn y ddegawd diwethaf, sef Pep le Pew a Genod Droog. Mae hefyd wedi bod yn gyfrifol am nifer o brosiectau cerddorol eraill yn cynnwys Mehefin y Cyntaf ac Y Lladron. Mae’n gynhyrchydd cerddoriaeth, a bu’n rhedeg stiwdio recordio am rai blynyddoedd. Mae bellach yn aelod amlwg o dîm cynhyrchu Radio Cymru.
Roedd Gethin Evs yn ddrymiwr gyda’r grwpiau llwyddiannusHyrbi (!), Kentucky AFC a Genod Droog. Mae bellach yn gyflwynydd teledu a radio poblogaidd.
“Rydan ni am i’r Noson Wobrau fod yn ddigon hwyliog yn hytrach na bod yn stiff a ffurfiol, a heb os fe fydd Dyl a Geth yn sicrhau bod digon o hwyl” meddai trefnydd y noson, Owain Schiavone