Nos Iau ddiwethaf, cyhoeddwyd rhestrau byr dau o gategorïau Y Selar ar raglen Y Lle ar S4C.
Cyhoeddwyd mai’r tri digwyddiad oedd wedi cyrraedd rhestr fer ‘Digwyddiad Byw Gorau 2012’ oedd Maes B Eisteddfod Bro Morgannwg, Gig Hanner Cant a Gŵyl Gwydir.
Cafodd rhestr fer categori ‘Record Hir y Flwyddyn’ ei henwi hefyd gyda dau albwm ddwbl, Bethel – Gai Toms a Discopolis – Clinigol yn ymuno â Draw Dros y Mynydd – Cowbois Rhos Botwnnog ar y rhestr o dri.
Bu i’r bleidlais gyhoeddus gau am hanner nos ar nos Fercher 30 Ionawr a dros y 5 wythnos nesaf yn arwain at y Noson Wobrau, bydd Y Lle yn cyhoeddi rhestrau byr dau o’r categorïau yn wythnosol.
Byddwn hefyd yn cyhoeddi’r rhestrau byr yn wythnosol ar ffrwd twitter@Y_Selar ac yn fan hyn ar y wefan.
Cofiwch bydd Noson Wobrau’r Selar yn cael ei chynnal ar nos Sadwrn 2 Mawrth yn Neuadd Hendre ger Bangor. Rhanwch y digwyddiad Facebook efo’ch ffrindiau plis!