Cyhoeddi lineup llawn Gwobrau’r Selar

Heno, fe wnaethon ni gyhoeddi’r 4 artist olaf fydd yn perfformio yn Noson Wobrau’r Selar yn Neuadd Hendre ar 2 Mawrth.

Yn fyw ar raglen C2 Lisa Gwilym, ac ar ffrwd twitter @Y_ Selar cyhoeddwyd y bydd Candelas, Gai Toms, Y Bromas ac Y Pencadlys yn ymuno â’r lineup gwych ar y noson.

Roedden ni eisoes wrth gwrs wedi cyhoeddi bod Y Bandana, Cowbois Rhos Botwnnog, Gwenno a Sŵnami i berfformio yn noson wobrau gyntaf Y Selar erioed.

Cafodd Gai Toms ddiweddglo prysur i 2012 wrth ryddhau ei albwm ddwbl hir-ddisgwyliedig, Bethel, ym mis Rhagfyr.

Rhyddhaodd yr artist electro, Y Pencadlys, EP Merched Mewn Ecstasi: Detholiad Y Pencadlys ’05-’09’ a bydd y gig yn gyfle i weld set unigryw ac eclectig ganddo.

Yn 2012 fe ddatblygodd Candelas i fod yn un o fandiau byw mwyaf cyffrous y sin, tra bod y grŵp ifanc o Gaerfyrddin, Y Bromas, wedi cael blwyddyn brysur a dechrau creu enw go iawn i’w hunain.

Mae tocynnau Noson Wobrau’r Selar bellach ar werth o wefan Sadwrn.com – maen nhw’n £6 ymlaen llaw neu £8 ar y drws.

Cofiwch hefyd bleidleisio dros enillwyr y gwobrau eleni fan hyn – bydd y bleidlais yn cau am hanner nos ar 30 Ionawr (brysiwch!)

Yn y cyfamser, i ddathlu newyddion heno dyma un o’n hoff ganeuon ni gan Candelas isod