Wel, mae gŵyl aml-leoliad dinesig orau Cymru ar y gorwel. Ydy, mae Gŵyl Sŵn yn digwydd yng Nghaerdydd y penwythnos yma.
Mae’r Selar yn gyffrous iawn i fod yn cyd-weithio â’r trefnwyr unwaith eto eleni ac yn c uradu noson yn yr ŵyl nos Iau yma yn nhafarn O’Neills ar heol Santes Fair (yr O’Neills ’mawr’ neu ‘newydd’ – dibynnu sut rydach chi’n gwahaniaethu rhwng y ddau – yn hytrach na’r llall!).
Mae artistiaid gwych ar y llwyfan nos Iau, sef Yr Ods, mr huw, Radio Rhys a Kizzy Crawford.
Os ydach chi o gwmpas, cystal chi wneud penwythnos ohoni yn y ddinas a bydden ni’n sicr yn argymell noson ein ffrindiau ni, bois Nyth, yn Gwdihŵ nos Sadwrn, tra bod hogia Peski hefyd yn cynnal noson wych yn Jacob’s Market nos Sadwrn.
Mae’r trefnwyr hefyd wedi lansio gorsaf radio Gŵyl Sŵn heddiw ac mae modd gwrando nôl ar rai o’r sioeau gwych ar Mixcloud.
Da di Sŵn!