Gyfansoddwyr ac artistiaid, ydach chi awydd trio ennill £3,500?
Wel, mae ’na gyfle i chi wneud hynny eto eleni yng nghystadleuaeth Cân i Gymru. Bydd rhaid i chi hastio cofiwch, gan fod y dyddiad cau ar 8 Ionawr.
Yn ogystal â’r brif wobr, mae cyfle i bawb o’r chwech sydd ar y rhestr fer i gael £900 i recordio eu caneuon mewn stiwdio.
Byddwch yn cofio i Jessop a’r Sgweiri gipio’r teitl llynedd gyda’r gân ‘Mynd i Gorwen efo Alys’.
Mae gwybodaeth lawn am y gystadleuaeth, a sut i gyflwyno eich caneuon ar wefan Cân i Gymru.
Ewch amdani ynde!