Roedd Y Selar yn drist iawn i glywed bod y Race Horses wedi penderfynu i roi’r gitâr yn y to, a chwalu ym mis Chwefror.
Cyn y Nadolig cyhoeddwyd y newyddion cyffrous fod y band Cymreig i gefnogi’r Keizer Chiefs ar daith Brydeinig yn y Gwanwyn, Ond, ddiwedd yr wythnos daeth y cyhoeddiad gan y grŵp y byddan nhw’n tynnu nôl o’r dyddiadau hynny, ac y bydde nhw’n gwneud eu gig olaf yng Nghlwb Ifor Bach, Caerdydd ar 9 Chwefror.
Dros y blynyddoedd roedd Race Horses, a chyn hynny Radio Luxembourg wrth gwrs, wedi datblygu i fod yn un o grwpiau gorau a mwyaf creadigol Cymru.
Fe wnaeth Y Selar gyfwel â’r grŵp yn fuan ar ôl iddyn nhw newid eu henw yn rhifyn Mawrth 2009. Er na wnaethon ni glywed a gweld cymaint gan y grŵp dros y blynyddoedd diwethaf wrth iddyn nhw ganolbwyntio ar gyhoeddi cerddoriaeth Saesneg, roedden nhw’n dal i fod yn agos at ein calonnau.
Grŵp gwych, bydd colled fawr ar eu hôl.
Rhag mynd i deimlo’n rhy drist, beth am fwynhau fideo cyntaf y grŵp i raglen Bandit ar S4C – a chân â sefydlodd y grŵp fel un o’r grwpiau Cymraeg mwyaf cyffrous ers amser.